Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Mawrth 2023
Amser:
09.30 -
13.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13234
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Cymru, Stephen Lisle, Swyddfa Archwilio Cymru Sian Davies, Swyddfa Archwilio Cymru Andrew Morgan, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Mary Ann Brocklesby, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Neil Davies, Gyd-bartneriaeth Gwasanaethau GIG Cymru Jonathan Irvine, Gyd-bartneriaeth Gwasanaethau GIG Cymru Tony Chatfield, Gyd-bartneriaeth Gwasanaethau GIG Cymru Craig Morgan, Gyd-bartneriaeth Gwasanaethau GIG Cymru
|
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon, a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2 Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus - sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
2.1 Cafodd y Pwyllgor ei friffio gan yr Archwilydd Cyffredinol.
2.2 Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Archwilydd Cyffredinol a chynrychiolwyr Archwilio Cymru.
3 Datgarboneiddio’r sector cyhoeddus - sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
4 Datgarboneiddio’r sector cyhoeddus - sesiwn dystiolaeth gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5.1 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
5.2 Y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer adnoddau a gwastraff
5.3 Rheoliadau Gwastraff Pecynnu (Casglu a Chofnodi Data) (Cymru) 2023
5.4 Cynllun Masnachu Allyriadau y DU
5.5 Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru
5.6 Gwasanaethau bysiau
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - trafod y dull ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1.